Iawndal o £1.3m i ferch fferm o Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Eirian Davies
Mae merch fferm o Sir Gâr wedi ennill iawndal o £1.3 miliwn wedi i'w rhieni wneud iddi weithio "fel Sinderela" ar stad £7 miliwn y teulu.
Roedd rhieni Eirian Davies, 45 oed, wedi addo y byddai hi'n etifeddu fferm lewyrchus y teulu, Caeremlyn yn Henllan Amgoed ger Hendy-gwyn ar Daf.
Ond wedi anghydfod teuluol roedd Tegwyn a Mary Davies yn eu saithdegau wedi newid eu hewyllys fel bod y fferm yn cael ei rhannu'n gyfartal rhwng Eirian Davies a'i dwy chwaer.
Roedd gwrandawiad yn y Llys Apêl y llynedd wedi dyfarnu y dylai Miss Davies gael cyfran fwy na'i chwiorydd o'r stad 182 erw wedi blynyddoedd o waith am fawr ddim o gyflog.