Achos treisio: 'Dim syniad am y DNA'
- Cyhoeddwyd

Mae pensiynwr ar gyhuddiad o dreisio menyw yn Sir Ddinbych wedi dweud yn Llys y Goron Yr Wyddgrug nad oedd ganddo unrhyw syniad sut y darganfuwyd ei DNA e ar y fenyw.
Mae Malcolm Donaldson, 73 oed o Gaernarfon, wedi ei gyhuddo o dreisio menyw 24 oed o Brestatyn.
Clywodd y llys fod y fenyw yn credu i rywun roi cyffuriau iddi ac nad oedd yn cofio'r ymosodiad.
Mae'r diffynnydd yn gwadu'r cyhuddiad.
Mewn cae
Dywedodd yr erlynydd Kim Halsall fod yr achos yn anarferol. Roedd y fenyw, meddai, wedi bod i dafarn ar noson yr ymosodiad ym Mawrth y llynedd ond nid oedd yn gallu cofio'r hyn ddigwyddodd wedi iddi adael y bar.
Pan ddihunodd roedd hi'n hanner noeth mewn cae.
Roedd y diffynnydd wedi honni mai dim ond dwywaith yr oedd wedi bod ym Mhrestatyn a mynnu ei fod gartre gyda'i wraig adeg yr ymosodiad.
Mae'r achos yn parhau.