Cyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl wedi dyblu
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y plant a phobl ifanc sydd wedi eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl wedi mwy na dyblu ers 2010.
Ym mis Rhagfyr 2010, roedd 1,200 o bobl dan 18 oed yn disgwyl am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol, ond roedd y ffigwr wedi codi i 2,500 erbyn Rhagfyr 2014.
Mae penaethiaid y GIG, arbenigwyr a gweithwyr o'r gwasanaethau cymdeithasol o ar draws Cymru yn dod i gynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Iau i drafod dyfodol y gwasanaeth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford bod y gwasanaeth yn wynebu "galw cynyddol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi diogelu gwariant ar iechyd meddwl gan gynyddu'r gyllideb o £389m yn 2009-10 i £587m yn 2014-15.
Ond pwysleisiodd Mr Drakeford mai yn dilyn archwiliad o'r mater, daethpwyd i'r casgliad nad oedd "gormod o lawer o'r cyfeiriadau" at wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc angen y gwasanaeth arbennigol hwnnw.
Ychwanegodd: "Yn sgil hyn daw llawer o rwystredigaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth iddyn nhw gael gwybod eu bod wedi eu hanfon lawr llwybr, na fydd yn ymdrin â'u hanghenion yn y dull orau bosib."
Straeon perthnasol
- 25 Tachwedd 2014
- 2 Ebrill 2014
- 10 Mawrth 2014