60 o swyddi i Lannau Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni awyrofod o'r Unol Daleithiau wedi buddsoddi £5 miliwn er mwyn ehangu eu safle yng ngogledd Cymru, gan greu 60 o swyddi.
Bydd y datblygiad yn digwydd yng nghanolfan y cwmni Triumph yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint.
Mi wnaeth y cwmni lwyddo i ennill cytundeb i gyflenwi Airbus gyda chydrannau, gan ysgogi'r datblygiad diweddaraf.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai'r buddsoddiad "yn sicrhau dyfodol hir dymor cynaliadwy ar gyfer y safle."
Bydd y datblygiad, sydd wedi derbyn £392,000 gan Lywodraeth Cymru, yn golygu bod y broses gynhyrchu yn symud o China i ogledd Cymru, gan gynyddu'r nifer o weithwyr ar y safle yng Nglannau Dyfrdwy i fwy na 100.
Mae disgwyl i'r gwaith ar yr estyniad ddechrau ym mis Ebrill, a bydd y broses gynhyrchu'n gallu cychwyn ar y safle ym mis Ionawr 2016.