Camerâu mewn toiledau'n cythruddo rhieni
- Cyhoeddwyd

Mae rhieni wedi dweud y byddan nhw'n cadw eu plant adref o ysgol yng Nghaerfyrddin wedi i gamerâu cylch cyfyng gael eu gosod mewn toiledau.
Mae'r camerâu wedi eu gosod mewn mannau cyhoeddus yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth mewn ymgais i atal fandaliaeth a bwlio.
Ond mae'r penderfyniad wedi cythruddo rhieni, wedi i un rhiant gwyno ar Facebook ynglŷn â'r camerâu yn y toiledau.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dweud bod y camerâu ddim ond yn pwyntio tuag at y sinciau, nid at y toiledau, ac nad ydyn nhw'n weithredol eto.
Erbyn hyn mae dwsinau o rieni'n mynnu bod y camerâu'n cael eu tynnu o'r toiledau.
Mae rhai wedi dweud y byddan nhw'n cadw eu plant o'r ysgol tan i'r ysgol weithredu, gan gael gwared ar y camerâu cylch cyfyng o ardal y toiledau.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor wrth BBC Cymru bod yr ysgol yn bwriadu egluro eu safbwynt ynglŷn â'r camerâu i rieni, ond nad oedden nhw'n siwr pryd fyddai hyn yn digwydd.