'Diffuant, ond diniwed'
- Cyhoeddwyd

'Diffuant, ond diniwed' - dyna farn Dr Jeremy Evas, Darlithydd mewn Polisi Iaith a Chynllunio Ieithyddol ym Mhrifysgol Caerdydd, ar ddarlith Alun Cairns yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd nos Fercher.
Dywedodd Dr Evas bod "sawl neges" yn narlith y Gweinidog, megis defnyddio'r Gymraeg ar Wales Today a gwneud mwy o ddefnydd o'r iaith, ond ei brif ddadl oedd gosod dau begwn yn erbyn ei gilydd: rheoleiddio neu hyrwyddo.
Dywedodd bod ystyried y ddau beth yn y fath fodd yn dangos diffyg dealltwriaeth: "Nid oedd ystyriaeth bod y ddau yn ategu ei gilydd neu'n cael eu cyd-drefnu. Byddai gofyn am ragor o ddeddfwriaeth, felly, yn wrthgynhyrchiol i bolisi iaith."
Mae Dr Evas yn cydnabod y gwahaniaeth rhwng hyrwyddo a rheoleiddio, ond ychwanegodd mai "gwyddoniaeth 'lwyd' yw cynllunio ieithyddol, ac mae cyflwyno dadl mor ddu a gwyn - er mor ddiffuant ydoedd - yn annigonol i fwrw'r drafodaeth yn ei blaen mewn ffordd ymarferol."
Yn ogystal cwestiynodd pa mor ymarferol oedd cynnwys yr araith, gan ddweud: "Wn i ddim beth yn union a wnawn i pe cawn orchymyn fel gwas sifil neu reolwr prosiect i roi cynnwys yr araith ar waith mewn polisi."
'Amyneddgar a chefnogol'
Roedd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi dweud yn ei araith bod angen i siaradwyr Cymraeg fod yn fwy "amyneddgar a chefnogol" wrth ddelio â'r rheiny sy'n dysgu'r iaith.
Yn ogystal dywedodd bod canfyddiadau o elitaeth ynghlwm â'r iaith, a dadleuodd yn erbyn cyflwyno deddfwriaeth sy'n ceisio cynyddu defnydd o'r iaith.
Mi wnaeth Mr Cairns herio siaradwyr Cymraeg i wneud mwy i "gofleidio ac annog" dysgwyr, yn enwedig rhai o gymunedau nad ydyn nhw'n draddodiadol Gymreig.
'Hybu'r iaith yn organig'
Dywedodd Mr Cairns nad oedd yn dymuno gweld llywodraeth yn deddfu er mwyn ceisio gorfodi mwy o ddefnydd o'r Gymraeg.
"Nid wyf eisiau gweld trefn o reoleiddio'r iaith, sy'n esgeuluso ymdrechion i hybu ei defnyddio.
"Rhaid i ni osod y nod o hybu'r iaith yn organig, yn enwedig ar lefel llawr gwlad, ac iddi wreiddio fel iaith gymunedol fyw sy'n ffynnu."
Yn ogystal dywedodd bod creu cyfleoedd am swyddi ar draws y wlad, er mwyn galluogi i bobl ifanc aros yn eu cymunedau, yn hollbwysig.
Her
Yn ogystal â chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith ym meysydd technoleg, peirianneg a dylunio, mae Mr Cairns wedi herio'r gymuned Gymraeg.
"Rwyf hefyd yn herio pawb i wneud mwy i gofleidio ac i annog dysgwyr Cymraeg ac i fod yn amyneddgar ac yn gefnogol, yn enwedig i'r rheiny o gymunedau nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg yn draddodiadol.
"Yn anffodus mae gormod o lawer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig cenhedlaeth iau sydd wedi astudio'r Gymraeg nes eu bod yn 16 yn yr ysgol, nad ydyn nhw'n gweld eu hunain fel siaradwyr Cymraeg, neu nid oes ganddyn nhw'r hyder i ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth neu fuarth yr ysgol.
"Mae gan y Cyfryngau Cymraeg ran bwysig i'w chwarae o ran herio patrymau ieithyddol a meithrin hyder pobl i siarad Cymraeg a'i defnyddio yn eu bywydau bob dydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2015