Ewrop: 17% yn gweld mwy o fudd i Gymru
- Cyhoeddwyd

Dim ond 17% o bobl yng Nghymru sy'n credu bod y wlad yn derbyn mwy gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) na gweddill y DU, er i Gymru dderbyn gwerth biliynau o bunnau o gymorth ariannol dros y 15 mlynedd diwethaf, yn ôl arolwg newydd.
Ond yn ôl yr ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd, mae mwy o etholwyr yn dymuno aros yn yr Undeb na sy'n dymuno gadael.
Mae Cymru wedi bod yn gymwys am gymorth ariannol o Frwsel ers 2000 o ganlyniad i'r Cynnyrch Domestig Gros (GDP) isel.
Rhwng 2014-2020 bydd Cymru yn derbyn £2.1 biliwn gan yr UE.
Elwa'n uniongyrchol
Daeth yr arolwg i'r canlyniad bod:
- 17% o bobl yn teimlo bod Cymru wedi elwa'n uniongyrchol o'r ffaith bod y DU yn aelod o'r UE;
- 30% yn teimlo bod Cymru wedi elwa llai na rhannau eraill o'r DU;
- 37% yn meddwl bod Cymru wedi elwa "yr un faint" a rhannau eraill.
Mewn refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd, byddai 44% o bobl Cymru yn dymuno aros yn yr undeb, ond 36% o blaid ei adael.
Roedd 20% yn ansicr neu heb ddatgelu pa ffordd yr oedden nhw'n bwriadu pleidleisio.
Dim argraff?
Dywedodd yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd: "Mae Cymru yn y canol o ran yr UE, rhwng Lloegr sy'n tueddu i fod yn sgeptig a'r Alban lle mae polau yn dangos mae pobl yn fwy positif am Ewrop.
"Un peth fydd yn poeni cefnogwyr yr Undeb Ewropeaidd yw nad oes gan lawer iawn o bobl ddealltwriaeth o'r buddion sy'n dod i Gymru o fod yn rhan o wlad sy'n aelod o'r UE.
"Nid yw blynyddoedd o aelodaeth gyda'r UE wedi gwneud llawer o argraff ar lawer o bobl Cymru."
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan YouGov ar ran Prifysgol Caerdydd. Roedd gan yr arolwg sampl o 1036 o oedolion gafodd eu holi rhwng 19 a 21 Ionawr.