Cannoedd yn angladd Dr Meredydd Evans
- Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl wedi bod i angladd y Dr Meredydd Evans ym mhentref Cwmystwyth yng Ngheredigion lle fu fyw ers y 1970au.
Roedd capel Siloam yn llawn ddydd Iau - gan gynnwys nifer o enwogion o'r byd cerddoriaeth a theledu, gwleidyddion ac ymgyrchwyr iaith.
Bu farw Dr Evans, cyn bennaeth adran adloniant ysgafn BBC Cymru, yn 95 oed wedi salwch byr.
Yn berfformiwr, ymgyrchydd iaith, ysgolhaig, darlledwr ac arbenigwr ar ganu gwerin, roedd 'Merêd' yn ffigwr amlwg a dylanwadol mewn sawl maes gwahanol.
'Cawr'
Wrth roi teyrnged, dywedodd Arwel Jones:
"Dyn oedd wedi cael addysg Prifysgol Bangor a Princeton, yn cofio na fyddai wedi cyrraedd yno oni bai am haelioni a safon ei ysgol Sul, a rhai fel John Ellis Williams a'i debyg, a heb ei gyfnod yn y Co-op.
"Soniodd sawl un yr wsos yma am sefyll ar ysgwyddau cawr, ond mae 'na gewri, a chewri, i gael yn y byd yma.
"Mae 'na rai y cewch chi job dringo at eu hysgwyddau nhw, a dyma i chi gawr oedd yn plygu'n fodlon a rhadlon i'r lleiaf ohonom ni gael dringo ar ei ysgwyddau fo, a mwynhau'r reid yr un pryd."
Yn siarad y tu allan i'r capel, dywedodd Dafydd Iwan bod "teyrnged arbennig iawn" wedi ei roi i Merêd.
"Roedd Merêd yn rhychwantu gymaint o feysydd ac yn golygu cymaint i gynifer o bobl, a'r pwynt canolog oedd fel oedd Merêd yn gwneud i bawb deimlo mai nhw oedd yn cael ei holl sylw fo, pwy bynnag oedden nhw.
"Roedd o'n gyfaill oedd yn gallu mynd yn agos iawn at bobl tra wrth gwrs yn cadw ei feddwl ar y darlun mawr hefyd."
Ychwanegodd: "Dyn arbennig iawn iawn. Welwn ni byth o'i fath yn hollol eto, ond mae'r dyrfa yma heddiw, y deyrnged yma yn arwydd o'r ffaith fod 'na ewyllys i gario ymlaen y gwaith ma' Merêd wedi'i gychwyn."