David Cameron: 'Ni yw gwir blaid Cymru'

  • Cyhoeddwyd
David Cameron
Disgrifiad o’r llun,
Canolbwyntiodd ar yr economi wrth ganmol "llwyddiant" gweithgynhyrchu yng Nghymru

Y Ceidwadwyr yw "gwir blaid Cymru", meddai'r Prif Weinidog David Cameron wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn stadiwm SWALEC Caerdydd ddydd Gwener.

Canolbwyntiodd ar yr economi wrth ganmol "llwyddiant" gweithgynhyrchu yng Nghymru, gan ddweud ei fod yn tyfu'n gynt nag yn Ffrainc, yr Almaen a gwledydd eraill y DU.

Dywedodd mai'r Torïaid oedd y "grym" tu ôl i welliannau yn y rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd, a'u bod wedi "sicrhau dyfodol S4C".

Yn ôl y Prif Weinidog, mae ei blaid wedi trawsnewid yr economi - lleihau'r diffyg ariannol. creu swyddi. torri treth, a gosod uchafswm ar fudd-daliadau - a'u bod yn cyflwyno "datganoli go iawn" i Gymru.

"Un o fy uchafbwyntiau yn ystod y pum mlynedd diwethaf oedd croesawu arweinwyr y byd i NATO," meddai.

"Doeddwn i ddim yn dod â nhw i Lundain, neu Gaeredin, neu Fanceinion, ond yma i dde Cymru."

'Dydd y farn yn agosáu'

Yn sesiwn y prynhawn, ymosododd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb ar weinidogion Llafur Cymru am eu "hunanfoddhad pur a diffyg brys ynghylch safonau mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol".

Cyhuddodd y blaid Lafur o fod yn "nawddoglyd" tuag at bobl Cymru, o fod yn blaid sy'n "cymryd cymunedau cyfan yn ganiataol".

"Mae Llafur wedi troi ei chefn ar Gymru, ac oherwydd hynny mae dydd y farn yn agosáu," rhybuddiodd Mr Crabb, gan gyfeirio at yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Dywedodd Mr Crabb, Aelod Seneddol Preseli Penfro, y gallai Llafur Cymru wynebu cwymp mewn cefnogaeth debyg i'r hyn a welwyd yn yr Alban.

Mae arolygon yn awgrymu y gallai Llafur golli tir sylweddol i'r SNP yn yr Alban yn yr etholiad.

Yn ôl Mr Crabb: "Ydy, mae gwleidyddiaeth yn yr Alban yn wahanol iawn, ond mae cynifer o'r un ffactorau yn eu lle yng Nghymru."

Awgrymodd mai rheolaeth Llafur o'r GIG oedd ar frig bryderon pleidleiswyr yng Nghymru.

Dyfodol y GIG

Hefyd yn y gynhadledd, mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar, wedi dweud na fydd y blaid yn cymryd rhan mewn comisiwn trawsbleidiol ar ddyfodol y GIG yng Nghymru.

Mae'r syniad wedi cael ei gefnogi gan bleidiau eraill fel ffordd o leihau'r tensiynau gwleidyddol ynghylch perfformiad y gwasanaeth.

Ond dywedodd Mr Millar y byddai comisiwn yn cymryd "rhy hir" ac y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn ffordd well i ddatrys y problemau yn y GIG.

Mae Mr Millar hefyd wedi ymrwymo Ceidwadwyr Cymru i gyflwyno treial o godi tâl ar gleifion am beidio â throi fyny ar gyfer apwyntiadau gyda'u meddyg teulu.

Dywedodd: "Mae colli apwyntiad nid yn unig yn gwastraffu amser y meddygon a nyrsys, ond mae'n amddifadu cleifion eraill o gael apwyntiad, yn gwastraffu arian y trethdalwyr ac yn cadw rhestrau aros yn hwy nag y dylent fod."

Cyn iddo gyrraedd y gynhadledd, fe wnaeth Mr Cameron, ynghyd â'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, gyhoeddi pwerau newydd i gryfhau'r Cynulliad.