Arweinydd Caerdydd: Pleidlais o ddiffyg hyder
- Published
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi dweud mai "gwleidydda" yw'r cynnig am bleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn.
Daw honiadau'r cynghorydd Phil Bale wedi i Gyngor Caerdydd ddod i gytundeb ynglŷn â chyllideb fydd yn mynd i'r afael â diffyg ariannol o £48.3m, a hynny wedi trafodaethau maith.
Mi wnaeth y cynghorwyr bleidleisio i gymeradwyo cynlluniau cabinet Llafur, fydd yn golygu bod treth y cyngor yn cynyddu 5% a hyd at 600 o swyddi dan fygythiad.
Cafodd y gyllideb ei chymeradwyo wedi i'r grŵp Llafur gyflwyno nifer o gynlluniau newydd er mwyn sicrhau cefnogaeth eu haelodau meinciau cefn.
Roedd y cynlluniau newydd yn cynnwys sicrhau bod arian ychwanegol ar gael i ddiogelu rhai gwasanaethau, megis canolfannau cymunedol, grwpiau chwarae plant a gwasanaethau cyffuriau.
Yn dilyn y newidiadau hwyr, mi wnaeth y gwrthbleidiau gynnig pleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Bale.
Mae disgwyl y bydd pleidlais ar y cynnig yn cael ei chynnal wythnos nesaf.
Ond mae Mr Bale wedi dweud mai "gwleidydda" gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yw'r cynnig, wrth i'r ddwy blaid gystadlu gyda Llafur ar gyfer rhai o etholaethau'r ddinas yn yr etholiad cyffredinol.
Er gwaethaf anfodlonrwydd ymysg y grŵp Llafur ynglŷn â'i arweinyddiaeth, dywedodd wrth BBC Cymru nad oedd yn ystyried ei sefyllfa.
Dywedodd: "Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud beth sydd orau i Gaerdydd.
"Ein bod ni'n gweithio'n galed i'w gwneud hi'n ddinas hyd yn oed gwell. Mae'n le anhygoel.
"Rydw i'n falch iawn o gynrychioli'r ddinas ble ces i fy magu ac rydw i'n edrych ymlaen at barhau i wneud hynny yn y dyfodol."
'Anhrefnus'
Ond dywedodd arweinydd y grŵp annibynnol, Jayne Cowan, bod angen i Mr Bale ystyried ei sefyllfa "yn ddifrifol iawn".
"Rydw i'n meddwl bod y broses wedi bod yn anhrefnus," meddai.
"Rydw i wedi bod yn gynghorydd ers 16 mlynedd, felly dyma fy 16eg cyllideb, a tydw i erioed wedi gadael y fath beth o'r blaen.
"Mae rhoi rhywbeth at ei gilydd ar y funud olaf a cheisio cael cefnogaeth gan y grŵp yn wael ofnadwy."
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Chwefror 2015