Dyn ar fechniaeth wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Blodau Ffordd Parc Ninian
Disgrifiad o’r llun,
Mae blodau wedi cael eu gadael wrth safle'r ddamwain ar Ffordd Parc Ninian

Mae Heddlu'r De wedi rhyddhau gyrrwr ar fechniaeth wedi marwolaeth bachgen 12 oed yn dilyn gwrthdrawiad â char ar Ffordd Parc Ninian yng Nghaerdydd brynhawn Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 4:00yh. Bu'r bachgen mewn gwrthdrawiad a char Audi S3 gwyn, ac mae dyn 25 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am lygad-dystion a welodd y digwyddiad neu'r ffordd yr oedd y car yn cael ei yrru ar y pryd i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 1010 neu 0800 555111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1500068826.

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y ffordd ei gau gan yr heddlu yn dilyn y gwrthdrawiad