'Yr unig ffordd i sicrhau cyfle i bawb' medd Kirsty Williams
- Cyhoeddwyd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn "stori gadarnhaol" yn llywodraeth glymblaid San Steffan, meddai arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams.
Wrth annerch cynhadledd wanwyn Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, soniodd am "gyflawniadau allweddol" megis trothwyon treth uwch, priodasau hoyw a diwygio pensiynau.
Dywedodd Ms Williams bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn adlewyrchu "pob rhan o gymdeithas, nid dim ond undebau a miliwnyddion".
Daeth Llafur a'r Torïaid o dan y lach fel "dwy ochr i'r un geiniog".
Dywedodd: "Ni ellir ymddiried yn y Blaid Lafur i ofalu am yr economi. Ni ellir ymddiried yn y Torïaid i ymladd dros degwch".
Ei barn yw mai pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r "unig ffordd i sicrhau cyfle i bawb".
'Deall cefn gwlad'
Yn y gynhadledd ar fore Sadwrn, fe wnaeth AS Brycheiniog a Maesyfed Roger Williams ganolbwyntio ar sefyllfa ffermwyr, a oedd meddai yn troi at y Democratiaid Rhyddfrydol oherwydd "nad yw'r Ceidwadwyr bellach yn deall cefn gwlad".
Ychwanegodd bod y Torïaid "yn parhau i fygwth ffermwyr gyda dileu neu leihau eu Taliadau Uniongyrchol. Mae'n amlwg pam mae ffermwyr yn troi at Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sy'n deall eu problemau ac yn gwybod sut i'w datrys."
Canolbwyntiodd y Farwnes Randerson, Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru, ar record y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr economi.
Meddai, "Fel Democratiaid Rhyddfrydol rydym yn credu yn yr angen am economi Gymreig gryfach er mwyn creu cymdeithas decach. Mae gwendid economaidd bob amser yn creu annhegwch, ac mae hynny bob amser yn brifo'r tlawd a'r bregus galetaf".
Yr Arglwydd German
Yn y cyfamser, mae cyn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud ei fod wedi cael ei "wahardd" o gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig.
Roedd yr Arglwydd German, cyn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru yng nghyfnod Rhodri Morgan wrth y llyw, wedi cael gwahoddiad gan Grŵp Diwygio y Torïaid, grŵp sy'n cefnogi ond yn annibynnol o'r Ceidwadwyr, i ddadl yng nghynhadledd y Torïaid yng Nghaerdydd.
Ond cafodd y gwahoddiad ei dynnu nôl ar y funud olaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2015