Cyngerdd i fachgen sydd ar goll
- Cyhoeddwyd

Fe ddisgynodd Cameron Comey i afon Tywi ar ôl bod yn chwarae gyda'i frawd
Mae cyngerdd yn cael ei gynnal ddydd Sul i fachgen 11 oed aeth ar goll yng Nghaerfyrddin.
Aeth Cameron Comey ar goll ar 17 Chwefror ac fe fydd yr arian sydd yn cael ei gasglu yn y cyngerdd yn mynd i'r gwasanaethau brys fu'n chwilio amdano.
Mae'r cyngerdd yn Eglwys Sant Pedr yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Meibion Llanelli a Wynne Evans.
Roedd tîm o 50 wedi bod yn rhan o'r gwaith o chwilio am y bachgen ar un cyfnod, yn cynnwys heddweision, y gwasanaeth tân a gwylwyr y glannau.
Ddydd Iau fe ddywedodd Heddlu Dyfed Powys y byddai'r defnydd o adnoddau arbennigol i chwilio am Cameron yn dod i ben, ond fe fyddai'r gwaith o chwilio amdano yn parhau.