Caerdydd 0-1 Wolves
- Cyhoeddwyd

Prynhawn siomedig arall i'r Adar Geision oedd hi eto heddiw - wrth golli gartref yn erbyn Wolves.
Daeth gôl gyntaf y gêm wedi 26 munud, wrth i Bakary Sako rwydo i'r ymwelwyr gyda'i droed chwith o ganol y cwrt cosbi.
Roedd Caerdydd yn gobeithio cael eu hail fuddugoliaeth o'r wythnos ar ôl trechu Wigan o 1-0 nos Fawrth - eu buddugoliaeth gyntaf mewn naw gêm.
Dim ond unwaith mae Caerdydd wedi ennill gartref yn y gynghrair ers mis Tachwedd.