Burton Albion 0-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Roedd gôl wych gan Miles Storey, sydd ar fenthyg i glwb Casnewydd, yn ddigon i selio buddugoliaeth i'r tîm o dde Cymru.
Hon oedd gêm gyntaf Jimmy Dack ers iddo gael ei benodi yn olynydd Justin Edinburgh fel rheolwr Casnewydd tan ddiwedd y tymor, ac fe fydd yn hapus gyda'r canlyniad ar ei ddiwrnod cyntaf wrth y llyw.