Timau achub mynydd yn chwilio afon Tywi

  • Cyhoeddwyd
Cameron Comey

Mae timau achub mynydd wedi ail-ymuno gyda'r gwaith o chwilio am fachgen 11 oed o Gaerfyrddin aeth ar goll ger afon Tywi yn y dref.

Fe ofnir fod Cameron Comey wedi disgyn i'r afon wrth chwarae gyda'i frawd ar 17 Chwefror.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y gwaith o chwilio'r afon yn parhau ddydd Sadwrn, gyda thimau achub yn defnyddio cychod caiac.

Yn ôl llefarydd, mae'r defnydd o dimau achub mynydd unwaith eto yn adlewyrchu agwedd benderfynol pawb sy'n chwilio amdano i ddefnyddio popeth ar gael iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r gwaith o chwilio afon Tywi yn parhau