Ffrainc 13 - 20 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cais i Biggar

Ennill oedd hanes y crysau cochion ym Mharis ddydd Sadwrn, yn eu trydedd gêm yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad.

Cymru oedd gyntaf i hawlio'r pwyntiau, a hynny drwy gic gosb gan Leigh Halfpenny wedi saith munud. 10 munud yn ddiweddarach roedd Ffrainc yn gyfartal - Camille Lopez yn llwyddo i gicio rhwng y pyst y tro hwn.

Mewn hanner cyffrous, aeth Cymru ar y blaen eto wedi hanner awr, gyda Halfpenny yn hawlio'r pwyntiau o gic gosb.

Cafodd Cymru ddihangfa wedi 33 munud pan groesodd Ffrainc y llinell gais ond ni chafodd y cais ei ganiatau gan fod y dyfarnwr Jaco Peyper o Dde Affrica wedi hawlio fod y bêl wedi mynd yn ei blaen yn ystod y symudiad.

Mantais ar yr hanner

Er i Ffrainc gael y mwyafrif o'r meddiant yn ystod yr hanner cyntaf, doedd y Ffrancwyr methu manteisio ar hyn ac fe chwythodd y chwiban ar ddiwedd yr hanner gyda'r Cymry yn cadw eu mantais o driphwynt.

Funudau'n unig wedi cychwyn yr ail hanner, fe fyddai Ffrainc wedi gallu dod yn gyfartal, ond fe welodd Morgan Parra ei gic gosb yn crymanu heibio i'r pyst.

Wedi 48 munud o chwarae, daeth Ffrainc yn gyfartal wedi cic gosb lwyddiannus gan Lopez, ond aeth Cymru yn ôl ar y blaen yn fuan wedyn - troed Leigh Halfpenny yn cosbi'r tîm cartref gyda chic arall, gan wneud y sgor yn 6-9 i'r crysau cochion.

Daeth y cais cyntaf gydag ugain munud yn weddill o'r gêm, wedi chwarae celfydd gan Gymru. Er i'r dyfarnwr ofyn am ail-farn, doedd dim amheuaeth nad oedd Dan Biggar wedi croesi'r llinell i Gymru, gan ei gwneud yn 6-14.

Funudau'n ddiweddarach daeth triphwynt arall i'r ymwelwyr - Leigh Halfpenny unwaith eto'n trosi cic gosb lwyddiannus a chynyddu'r fantais i 6-17.

Ffrainc yn brwydro'n ôl

Roedd y gêm yn araf lithro o afael y Ffrancwyr, ac felly fe bwysodd y crysau gleision yn ôl yn syth gyda chais a throsiad - gan wneud y sgor yn 13-17 gyda deng munud i fynd. Y cais gan Brice Dulin a'r trosiad gan Lopez.

Wedi 73 munud daeth cyfle i Gymru ymestyn eu mantais wedi i Ffrainc gael eu cosbi ac unwaith eto Leigh Halfpenny oedd yn gyfrifol am y pwyntiau gyda chic gosb arall i Gymru, gan drosi 5 allan o 6 a gwneud y sgor yn 13-20.

Buddugoliaeth galed ond haeddianol i Gymru ar ddiwedd gêm gyffrous felly - ac fe fydd Warren Gatland yn fodlon gyda'r perfformiad.

Ffrainc: B Dulin, Y Huget, R Lamerat, W Fofana, S Guitoune, C Lopez, M Parra; E Ben Arous, G Guirado, R Slimani, R Taofifenua, Y Maestri, T Dusautoir, B Le Roux, D Chouly

Ar y Fainc: B Kayser, U Atonio, V Debaty, J Suta, L Goujon, S Tillous-Borde, R Tales, M Bastareaud

Cymru: L Halfpenny, G North, J Davies, J Roberts, L Williams, D Biggar, R Webb; G Jenkins, S Baldwin, S Lee, L Charteris, A Wyn Jones, D Lydiate, S Warburton (capten), T Faletau

Ar y Fainc: R Hibbard, P James, A Jarvis, B Davies, J Tipuric, M Phillips, R Priestland, S Williams