Cyhoeddi adolygiad o ariannu Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander wedi cyhoeddi adolygiad o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu.
Yr economegydd Gerry Holtham sydd wedi cael ei wahodd i ddiweddaru ei astudiaeth i lywodraeth Cymru yn 2009 a oedd yn awgrymu bod Cymru yn cael ei thanariannu o tua £300m y flwyddyn.
Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i ddadleuon barhau dros addewid y llywodraeth glymblaid i osod isafswm o gyllid.
Gwnaed y cyhoeddiad ar ddiwrnod olaf cynhadledd wanwyn Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth Mr Alexander gyhuddo Llafur o fethu â sicrhau ariannu teg.
"Ein her yw i gymryd y camau nesaf ar ddiwygio cyllid y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi sicrhau", meddai.
"Gwrthododd y llywodraeth Lafur blaenorol i ymrwymo i ariannu teg - mae wedi cymryd Democratiaid Rhyddfrydol i gyflawni hynny," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- 28 Chwefror 2015
- 27 Chwefror 2015
- 27 Chwefror 2015