Carchardai Abertawe a Chaerdydd: 'Gorlenwi anferth'

  • Cyhoeddwyd
Carchar

Mae elusen yn dweud bod dau o garchardai Cymru yn dioddef oherwydd "gorlenwi anferth".

Yr Howard League sy'n dweud bod nifer y carcharorion yng ngharchardai Abertawe a Chaerdydd yn uwch na'r lefel llety cyffredin ardystiedig, sef faint o garcharorion all fyw yn y carchar yn ddiogel.

Mae lefel Caerdydd yn 539 ond yn niwedd Ionawr roedd 810 o garcharorion yn y carchar tra oedd 422 o garcharorion yn Abertawe er bod y lefel yn 242.

Dywedodd y Gweinidog Carchardai Andrew Selous fod lefel pob carchar yn ddiogel a bod gorlenwi ar ei isaf ers saith mlynedd.

'Eisoes yn orlawn'

Mi ddadansoddodd yr elusen fanylion yr Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer carchardai yng Nghymru a Lloegr, gan ddweud bod carchardai Abertawe a Chaerdydd ymysg y rhai lle oedd problemau gorlenwi anferth.

Yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr roedd lefel o 1,170 a 1,452 o garcharorion yno ac yng ngharchar Prescoed roedd 496 o garcharorion a lefel o 378.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen Frances Cook: "Mae gormod o bobl yn cael eu hanfon i garchardai sydd eisoes yn orlawn ac mae angen lleihau'r nifer ar fyrder."

Ychwanegodd y Gweinidog Carchardai, Andrew Selous: "Mae digon o le yn ein carchardai ar gyfer pob troseddwr ac ni fyddwn ni byth yn methu â charcharu'r rhai sydd wedi eu dedfrydu gan y llysoedd."