Arestio dau wedi marwolaeth amheus ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n holi dau ddyn wedi marwolaeth amheus dyn 42 oed ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf.
Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i hen dafarn y Morning Star yn ardal Y Graig am 19:30 ddydd Sadwrn.
Cafodd dau ddyn lleol 31 a 42 oed eu harestio.
Mae'r ddau yng Ngorsaf Heddlu Merthyr Tudful ac mae'r ymchwiliad yn parhau.