Galw ar arweinydd Cyngor Caerdydd i ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Phil Bale
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd Phil Bale yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder

Mae arweinydd cyngor mwyaf Cymru yn wynebu galwadau iddo ymddiswyddo, gan aelodau o'i blaid ei hun.

Daw'r alwad i Phil Bale adael ei swydd gan gyn arweinydd y grŵp Llafur, Ralph Cook, sy'n gofyn i Mr Bale ymddiswyddo i osgoi rhoi'r blaid drwy "drawma pellach".

Mae Mr Bale yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth ddydd Iau, ac mae disgwyl i aelodau'r grŵp Llafur gefnogi Mr Bale.

Ond mewn e-bost sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, mae Mr Cook yn honni y bydd 12 o gynghorwyr yn mynd yn erbyn y chwip.

Cafodd cyllideb ddadleuol Mr Bale ei phasio nos Iau diwethaf wedi sawl gwelliant i sicrhau cefnogaeth aelodau mainc cefn Llafur.

Diffyg hyder

Mewn e-bost at Mr Bale ddydd Gwener, dywedodd Mr Cook bod Mr Bale a'i gabinet wedi "methu â gwrando ar ein rhybuddion, mae rhai ohonoch chi wedi methu deall a chyflawni eich cyfrifoldebau".

Aeth ymlaen i ddweud nad yw'r cabinet wedi ei sicrhau "bod y gallu gan unrhyw un ohonoch chi i fynd â'r Grŵp a'r Cyngor allan o'r twll yr ydych chi wedi ein harwain ni iddo".

"Yr alwad o du allan y Grŵp Llafur yw i chi gamu o'r neilltu, yn breifat rydw i'n cefnogi'r alwad honno," meddai.

"Ar ôl y penwythnos rydw i'n disgwyl y bydd 12 'rebel Llafur' yn rhannu fy nheimladau (os nad ydyn nhw yn barod) felly na allwch chi oroesi'r cynnig o ddiffyg hyder.

"Rydw i'n eich annog i beidio â rhoi'r Grŵp Llafur drwy drawma pellach a chyhoeddi eich ymddiswyddiad heddiw."

Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu gyda Cyngor Caerdydd a'r blaid Lafur.