Gwrthdrawiad: Cyhoeddi enw bachgen fu farw
- Published
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw bachgen 12 oed fu farw wedi gwrthdrawiad gyda char yng Nghaerdydd.
Bu farw Hamid Ali Khan, o ardal Glan-yr-Afon, wedi'r gwrthdrawiad ar Ffordd Parc Ninian ar ddydd Gwener, 27 Chwefror.
Mewn teyrnged dywedodd ei deulu: "Roedd Hamid yn fab a brawd bendigedig. Roedden ni'n falch iawn ohono a phopeth y llwyddodd i gyflawni."
Roedd Hamid yn ddisgybl blwyddyn 7 yn Ysgol Fitzalan, Lecwydd, ac yn cefnogi timau pêl-droed Caerdydd a Chelsea.
Ychwanegodd ei deulu: "Roedd Hamid yn caru bywyd - byddai'n barod i fynd i'r ysgol bob dydd ac wedi cyffroi o gael dysgu rhywbeth newydd bob dydd.
"Rydyn ni i gyd yn hynod o drist ond wedi ein cysuro o wybod bod Hamid wedi cyflawni gymaint mewn bywyd mor fyr."
Dywedodd yr heddlu bod dyn 25 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae'r heddlu hefyd yn apelio am wybodaeth am yr Audi S3 oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Straeon perthnasol
- Published
- 28 Chwefror 2015