Ymchwiliad i honiadau o gam-drin mewn ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol a chorfforol yn ymwneud ag Ysgol Rhydygors, yn Nhre Ioan, ger Caerfyrddin.
Dywed yr heddlu fod uned arbennig wedi ei sefydlu ar gyfer yr ymchwiliad a hefyd i roi cefnogaeth i dros 20 o ddioddefwyr.
Mae chwech o bobl wedi cael eu harestio.
Mae Ysgol Rhydygors yn ysgol arbennig ar gyfer disgyblion preswyl a disgyblion dydd sydd â phroblemau ymddygiad ac emosiynol.
Fe fydd ymchwiliad yr heddlu - ymgyrch Almond - yn canolbwyntio ar honiadau a wnaed yn 2000 a 2012.
Yn ôl llefarydd fe gafodd ymchwiliad llawn ei gynnal i'r honiadau yn 2000, ac fe gafodd y canlyniadau eu hanfon i Wasanaeth Erlyn y Goron. Penderfynodd y Gwasanaeth i beidio â mynd a'r achos i'r llysoedd.
Ymchwiliad troseddol
Yn 2012, cafodd honiadau pellach eu gwneud, gan gynnwys honiadau o gam-drin rhywiol a chorfforol, mewn cartref gofal, sef Cartref-y-Gelli, yng Nghaerfyrddin rhwng 1986 a 1990.
Mae'r honiadau a wnaed yn ymwneud â staff sydd bellach wedi gadael Rhydygors, ac mae Cartref-y-Gelli wedi ei gau ers sawl blwyddyn.
Wedi'r honiadau ddaeth i law yn 2012, ac yn dilyn ymgynghoriad gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, fe wnaed penderfyniad i gynnal ymchwiliad troseddol newydd - fyddai hefyd â'r hawl i ymchwilio i honiadau hanesyddol.
Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod yn gweithio yn agos gydag asiantaethau eraill, er mwyn diogelu pobl fregus.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerfyrddin eu bod yn cydweithio yn agos gyda'r heddlu.
Ychwanegodd: "Gan fod hwn yn achos cyfreithiol does dim modd rhoi mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.
"Mae'r prifathro, y llywodraethwyr a'r awdurdod lleol yn deall fod honiadau o'r math yma yn achos pryder, a byddwn am sicrhau rhieni o'n hymroddiad i sicrhau diogelwch a lles holl ddisgyblion Rhydygors."
'Hynod ddifrifol'
Dywedodd Simon Thomas, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Rwy'n gobeithio nawr y byddan nhw [yr honiadau] yn cael eu trin fel rhai hynod ddifrifol a hynny gan yr heddlu a'r Gwasanaeth Erlyn.
"Yn amlwg mae honiadau tebyg wedi eu gwneud yn y gorffennol a doedd yna ddim erlyniadau bryd hynny, tua 15 mlynedd yn ôl.
Ychwanegodd: "Mae yna newid agwedd o bosib wedi bod i'r math yma o droseddau honedig. Yn y blynyddoedd ers hynny rydym wedi dod i wybod llawer mwy am hyn, sut mae'n digwydd, a'r cyd-destun lle mae'n digwydd.
"Mae hynny'n golygu fod angen cymryd cyhuddiadau o'r fath yn hynod ddifrifol, ac mae angen parchu llais y dioddefwr yn broses.
"Yn anffodus dyw hynny heb ddigwydd gydag achosion eraill - dwi ddim yn dweud mai dyna sydd wedi digwydd y tro hwn, dwi ddim yn gwybod digon.
"Ond mewn achosion eraill dyw e heb ddigwydd, ac rydym wedi gorfod mynd yn ôl trwy hanes er mwyn cael gwybod beth ddigwyddodd go iawn."