Y llwybr hir i'r pyllau
- Cyhoeddwyd

Mae'n union 30 mlynedd ers i arweinwyr y glowyr bleidleisio i ddychwelyd i'w gwaith gan ddod â streic fawr 1984/5 i ben.
Penderfynodd cyfrinfeydd mewn sawl ardal yn y maes glo i orymdeithio yn ôl i'w gwaith y tu ôl i'w baneri. Roedd y glowyr wedi bod ar streic am bron i flwyddyn, a hynny yn wreiddiol yn erbyn bwriad i gau pyllau yng ngogledd Lloegr.
Dechreuodd y streic ar 6 Mawrth 1984, gyda'r glowyr yn dychwelyd i'w gwaith ar 5 Mawrth 1985.
Ym Maerdy, y Rhondda, fe orymdeithiodd y dynion y tu ôl i seindorf arian, a hynny i gymeradwyaeth pobl leol. Ni wnaeth yr un o'r 753 o lowyr y pwll dorri'r streic.
Doedd yr un ddim yn wir ym mhob pwll. Yng Nghynheidre yng Nghwm Gwendraeth, roedd yna ddrwgdeimlad rhwng y mwyafrif wnaeth aros allan, a'r rhai benderfynodd fynd nôl i'w gwaith cyn diwedd y streic.
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2015