Milwr o Wynedd yn paratoi i ddringo Everest
- Cyhoeddwyd

Bydd milwr o Wynedd yn arwain tîm ar ran y fyddin a'r Lleng Brydeinig i ddringo mynydd uchaf y byd ym mis Ebrill.
Mi fydd Simon Naylor a'i dîm yn dilyn llwybr y gogledd i fyny mynydd Everest, yr un llwybr a ddilynodd y mynyddwr George Mallory drwy Tibet a China yn 1920.
Dywedodd wrth Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fod rhai yn credu mai dyma'r llwybr mwyaf heriol i gopa'r mynydd.
Yn wreiddiol o Fangor, bu Simon yn ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, cyn ymuno â'r fyddin 20 mlynedd yn ôl.
Erbyn hyn mae'n aelod o brif uned hyfforddi y Fyddin, lle mae'n gweithio fel hyfforddwr gweithgareddau eithafol.
Mae ei waith yn cynnwys hyfforddi milwyr i ddringo, canŵio a sgïo.
Môr a mynydd
Dywedodd Simon ei fod "wrth ei fodd yn yr awyr agored", yn enwedig am ei fod o wedi ei fagu rhwng môr a mynydd. Dywedodd fod hynny wedi rhoi "sylfaen dda iddo i ddatblygu diddordeb mewn natur."
Hyd nes mis Mehefin eleni, mi fydd Simon yn gwasanaethu fel Swyddog Gwarant dosbarth 2, ond wedi hynny fe fydd yn cael ei ddyrchafu i ddosbarth 1, sy'n golygu y bydd yn symud i Ganada am ddwy flwyddyn ar ôl dychwelyd o Everest.
Mae gan Simon brofiad helaeth o ddringo yng Nghymru, Yr Alban, Norwy, Ffrainc, Sbaen, Eidal, Seland Newydd, Awstria, Yr Almaen, Periw, Canada, Indonesia, Awstralia ac Affrica.
"Mi fydd dringo Everest yn sialens naturiol i ddatblygu fi fel arweinydd!"
"Fe fydd chwe milwr yn rhan o'r tîm, a fi fydd arweinydd y criw, mi ryda ni'n gobeithio cyrraedd y copa ar 26 Mai, wedi i ni fod yn dringo am tua 5 neu 6 wythnos. Fe fydd yn rhaid i ni fod yn bwyllog a chynefino â'r uchder, sy'n 8848m - bron 9 gwaith uchder yr Wyddfa."
Fe fydd Simon a'r criw yn diweddaru eu tudalen Facebook gydol y daith.