Dwy awyren yn osgoi gwrthdrawiad yn y gogledd
- Published
Mae adroddiad wedi disgrifio sut y gwnaeth dwy awyren Hawk yr Awyrlu osgoi taro ei gilydd ger Cricieth, Gwynedd, fis Medi'r llynedd.
Roedd ymchwiliad wedi i'r awyrennau Hawk T1 hedfan o fewn traean o filltir i'w gilydd ar gyflymder uchel.
Casglodd yr adroddiad fod perygl o wrthdrawiad Categori A - y lefel uchaf.
Mewn digwyddiad arall ym mis Awst roedd perygl o wrthdrawiad Categori C - lefel gymharol isel - uwchben gogledd Cymru.
Yn y digwyddiad cyntaf ym mis Medi nid oedd gan yr un o'r awyrennau system rhybuddio rhag gwrthdrawiadau.
Cyfrifoldeb cyfartal
Mae adroddiad Bwrdd Airpox y DU yn disgrifio sut roedd un o'r peilotiaid o ganolfan yr Awyrlu yn Y Fali yn ymarfer troi ar gyflymder uchel pan welodd yr ail awyren.
Roedd yr ail beilot yn hedfan am y tro cyntaf ar ei ben ei hun mewn awyren Hawk.
Casglodd yr adroddiad fod cyfrifoldeb cyfartal ar y ddau beilot i osgoi'r gwrthdrawiad a chadw golwg effeithiol ar beth oedd yn digwydd, ond roedden nhw wedi methu â gweld ei gilydd mewn da bryd.
Mae adroddiad am ddigwyddiad Awst yn dweud bod tair awyren Hawk yn hedfan i'r de o Lyn Tegid tuag at Ddolgellau pan welwyd dwy awyren Typhoon.
Wrth i'r awyrennau Hawk gyrraedd ardal Brithdir gwelodd y peilot oedd yn arwain y ffordd yr awyrennau Typhoon yn dod tuag atyn nhw ar lefel isel.
Cafodd y peilotiaid wybod am y digwyddiad dros y radio a dringo i uchder er mwyn osgoi'r perygl.