Merched hyderus 'yn llai tebygol o smygu'

  • Cyhoeddwyd
merch yn ysmygu

Mae merched hyderus sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau all-gwricwlaidd a chwaraeon yn llawer llai tebygol o ddechrau ysmygu neu ddefnyddio e-sigarets.

Dyma ganfyddiad adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Cynghrair Rheoli Tybaco Gogledd Cymru.

Daw'r adroddiad wedi gwaith ymchwil gafodd ei gynnal yn Wrecsam gyda merched rhwng 11-14 oed.

Daeth yr ymchwil hwnnw i'r casgliad bod codi dyheadau a chynyddu hyder mewn merched ifanc yn gallu lleihau nifer y merched sy'n dechrau ysmygu.

12 oed

Yng Nghymru, mae plant yn dechrau ysmygu'n 12 oed ar gyfartaledd. Yng ngogledd Cymru, mae 5% o fechgyn a 10% o ferched rhwng 11-16 oed yn ysmygu o leiaf unwaith yr wythnos.

Mae canran y merched rhwng 11-16 sy'n ysmygu yng ngogledd Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan, sy'n 8%.

Nawr, mae ymgyrchoedd gafodd eu dechrau yn rhan o'r cynllun peilot yn Wrecsam, yn cael eu lledaenu ymhellach.

Andrew Jones yw Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Nod yr ymgyrch 'Merched gyda Breuddwydion' yw annog merched i freuddwydio a'u helpu i ddeall bod bod yn gaeth i nicotin yn gallu rhwystro eu dyheadau i'r dyfodol.

"Dywedodd y merched a gymerodd ran yn yr holiadur gwerthuso ar ddiwedd yr ymgyrch nad oeddent yn bwriadu ysmygu na defnyddio e-sigarets - nawr bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno yng ngweddill gogledd Cymru."

'Cyswllt clir'

Mae ymgyrch a ddatblygwyd gan ferched rhieni sy'n ysmygu o'r enw 'Stopiwch er eich mwyn chi, Stopiwch er eu mwyn nhw', hefyd yn cael ei lansio ledled gogledd Cymru - mae'n cefnogi merched ifanc i ddweud wrth eu rhieni nad ydynt eisiau iddynt farw am eu bod yn ysmygu.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylai'r holl sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat sicrhau bod yr holl arwyddion newydd yn cynnwys negeseuon am ysmygu a defnyddio e-sigarets a chyswllt clir at wasanaethau rhoi'r gorau iddi.