Ymchwilio i ddyfodol safle Ysbyty Dinbych
- Cyhoeddwyd

Ddydd Mawrth, mae ymchwiliad yn dechrau wedi penderfyniad gan berchennog safle hen Ysbyty Gogledd Cymru i herio Gorchymyn Prynu Gorfodol gan Gyngor Sir Ddinbych.
Fe bleidleisiodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych o blaid y Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG) ar gyfer y safle 'nôl ym mis Medi 2013.
Daeth hyn wedi i'r perchnogion Freemont (Denbigh) Limited, fethu â chydymffurfio â hysbysiad oedd yn gofyn iddyn nhw wneud gwaith atgyweirio sylweddol i'r adeiladau ar y safle.
Mae'r GPG wedi ei gyflwyno sy'n gofyn i Freemont (Denbigh) Ltd werthu'r adeilad i Gyngor Sir Ddinbych, a fydd yn ei dro yn trosglwyddo perchnogaeth y safle i Ymddiriedolaeth Cadw Adeiladau Gogledd Cymru.
Fore Mawrth, mae arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn cynnal y gwrandawiad yn Amgueddfa Dinbych, a bydd yn penderfynu a ddylai'r tir gael ei drosglwyddo i'r cyngor sir.
Meddai Graham Boase, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd yn Sir Ddinbych: "Rydym yn naturiol yn siomedig iawn bod y perchnogion wedi penderfynu herio'r GPG, ond nid ydym yn synnu'n gyfan gwbl.
"Prif ystyriaeth y Cyngor yw cadwraeth y prif adeilad hanesyddol ar y safle, ac rydym wedi rhybuddio'r perchnogion droeon y byddem yn mynd ar drywydd prynu gorfodol, pe na bai gennym unrhyw ddewis arall."