£20m i hybu dysgu drwy'r celfyddydau

  • Cyhoeddwyd
brwshys paent

Bydd £20 miliwn yn cael ei wario ar gynllun Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau.

Ddydd Mawrth, bydd cynllun gweithredu'r ymgyrch yn cael ei gyhoeddi, er mwyn amlinellu sut y bydd dysgwyr yng Nghymru yn ymwneud â'r celfyddydau.

Dyma ymateb Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i adolygiad annibynnol yr Athro Dai Smith, Y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru.

Cyngor Celfyddydau Cymru fydd yn gyfrifol am roi'r cynllun ar waith drwy weithio â phartneriaid yn y consortia addysg rhanbarthol, awdurdodau lleol a sefydliadau ac ymarferwyr ym maes y celfyddydau.

Tri nod

Tri nod yn bennaf sydd i'r cynllun gweithredu Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau:

  • gwella cyrhaeddiad drwy greadigrwydd;
  • cynyddu a gwella cyfleoedd mewn ysgolion ym maes y celfyddydau;
  • cefnogi athrawon ac ymarferwyr y celfyddydau i ddatblygu eu sgiliau er mwyn sicrhau gwell deilliannau i ddysgwyr.

Mae'r cynllun yn cefnogi tair blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ym maes addysg: gwella llythrennedd a rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Bydd pedwar rhwydwaith rhanbarthol yn cael eu sefydlu i rannu arferion gorau, annog gweithio mewn partneriaeth a chynnig cyfleoedd hyfforddi ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol er mwyn teilwra'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig i fodloni anghenion ysgolion a'r cwricwlwm.

'Tanio ein dychymyg'

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis:

"Mae'r celfyddydau yn tanio ein dychymyg, yn ein hysbrydoli a'n helpu ni i ddatblygu sgiliau newydd.

"Rydw i am weld pobl ifanc, yn enwedig o gefndiroedd llai breintiedig, yn cael y cyfle i fanteisio ar brofiadau celfyddydol a chreadigol o safon uchel mewn ysgolion yng Nghymru."