Tîm pêl-droed Prydain yn Rio?

Published
image copyrightGetty Images
image captionRoedd Neil Taylor ac Aaron Ramsey yn rhan o'r tîm yng Ngemau Olympaidd Llundain

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn bwriadu sefydlu timau pêl-droed dynion a merched ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro yn 2016.

Roedd y gymdeithas wedi dweud na fydden nhw'n gwneud cais i anfon timau, ond nawr mae llythyr wedi ei anfon at y cymdeithasau pêl-droed yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn rhoi gwybod am eu bwriad, gan ofyn hoffen nhw gymryd rhan,

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Sefydliad Olympaidd Prydeinig: "Rydym ni wedi derbyn cadarnhad gan y Gymdeithas Bêl-droed eu bod nhw'n bwriadu gwneud cais i fod yn gymwys i gystadlu yn Rio 2016 ym mhencampwriaethau'r dynion a'r merched."

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud sylw ar y datblygiad diweddaraf hyd yn hyn.

Er i gymdeithasau pêl-droed Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wrthod cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, fe gafodd pum Cymro eu dewis i dîm y dynion.

Roedd Neil Taylor, Aaron Ramsey, Joe Allen, Ryan Giggs a Craig Bellamy yn y garfan yn 2012.