Grant i achub Clwb Ffermwyr Ifanc

  • Cyhoeddwyd
Rebecca Evans AC
Disgrifiad o’r llun,
Daeth y cyhoeddiad gan y dirprwy weinidog amaeth Rebecca Evans AC

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n rhoi oddeutu £90,000 i Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru.

Daw hyn yn dilyn pryderon am ddyfodol y mudiad wedi iddo fethu gyda chais am arian gan Gronfa Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth Rebecca Evans:

"Bydd y gefnogaeth yr wyf wedi ei chyhoeddi heddiw o grant o £88,600 dros y deuddeg mis nesaf yn caniatáu i G.FF.I. Cymru i adeiladu gallu mewnol a datblygu cynllun busnes pum mlynedd fydd yn rhoi cyfeiriad clir a dyfodol cynaliadwy i'r mudiad."

Fe ddywed ei datganiad i'r senedd ddydd Mawrth: "Fe gafodd C.FF.I. Cymru wybod bod eu ceisiadau am arian gan CNC a'r Gronfa Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol Genedlaethol wedi methu - hoffwn egluro bod y rhain yn brosesau cystadleuol ac nid yn achos o dorri cyllidebau fel sydd wedi ei adrodd mewn rhai llefydd.

"Mae trafodaethau rhwng C.FF.I. Cymru a swyddogion o fy adran wedi canfod bod angen i'r mudiad gael model busnes newydd os am symud ymlaen.

"Rhan o'r gefnogaeth a geir gan y llywodraeth yma fydd grant i gynorthwyo'r mudiad i roi ei hun ar seiliau cadarn."