Dyn wedi marw yn y Celtic Manor
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw ar ôl digwyddiad ar gwrs golff y Celtic Manor yng Nghasnewydd fore Mawrth.
Mae'r dyn yn cael ei enwi'n lleol fel Ollie Floyd - oedd yn 20 oed ac yn dod o ardal Rhosan ar Wy.
Yn ôl yr heddlu, trodd cerbyd chwistrellu bychan ar ei ochr a llithro i'r llyn ar y cwrs.
Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ddau ambiwlans a pharafeddyg gael eu hanfon i 'r Celtic Manor am 07:53.
Dywedodd Heddlu Gwent mewn datganiad:
"Cafodd y dyn o ardal Rhosan ar Wy ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent mewn cyflwr difrifol iawn wedi i beiriant chwistrellu amaethyddol yr oedd yn ei ddefnyddio fynd i mewn i'r dŵr.
"Cafodd dyn arall 46 oed a hefyd o Rhosan ar Wy ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau."
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd wedi cyhoeddi datganiad am y digwyddiad:
"Cafodd criwiau tân o'r Maindy, Malpas a Dyffryn eu galw i'r Celtic Manor am 07:49 wedi adroddiadau fod chwistrellydd amaethyddol bychan wedi rholio i'r llyn.
"Cafodd un dyn ei ryddhau cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd. Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty, a bu criwiau'n helpu parafeddygon i asesu staff oedd wedi mynd i'r dŵr i helpu gyda'r gwaith achub cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd."
Bu'r cwrs golff ynghau wedi'r digwyddiad.