'Gofalwr yn goruchwylio dosbarthiadau'

  • Cyhoeddwyd
Jill Evans
Disgrifiad o’r llun,
Ms Evans oedd pennaeth Ysgol Heolgerrig rhwng 2005 a 2011

Mae cyn-brifathrawes wedi dweud wrth wrandawiad nad oedd hi'n ymwybodol bod gofalwr wedi cael caniatâd i oruchwylio dosbarthiadau mewn ysgol gynradd ym Merthyr, a hynny tra bod athrawon yn cael eu gwallt wedi torri yn ystod oriau gweithio.

Wrth roi tystiolaeth gerbron Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, dywedodd Jill Evans, 54 oed, bod y triniwr gwallt oedd yn ymweld ag Ysgol Heolgerrig yn gwneud hynny fel rhan o raglen "Buddsoddi Mewn Pobl" yr ysgol. Ychwanegodd mai rhiant oedd y person dan sylw.

Clywodd y gwrandawiad honiadau fod athrawon wedi cael caniatâd i gael eu gwallt wedi ei drin yn ystod oriau ysgol, a hynny ar dir yr ysgol a gyda chaniatâd y brifathrawes.

Yn ôl Ms Evans, fe wnaeth hi gyflwyno'r cynllun oherwydd anawsterau oedd yr athrawon yn wynebu i gael apwyntiadau torri gwallt ar ddiwedd diwrnod gwaith.

Dywedodd y byddai hyn yn digwydd ar ôl oriau ysgol, ar wahân i un "achlysur arbennig", pan ddigwyddodd yn ystod gwasanaeth boreol yr ysgol.

Roedd hi'n derbyn y byddai'n "gwbl amhriodol' i ganiatáu sesiynau torri gwallt yn ystod oriau ysgol.

Gwadu naw cyhuddiad

Clywodd y gwrandawiad honiadau bod gofalwr yr ysgol, Michael Vaughan, wedi goruchwylio dosbarthiadau tra bod athrawon yn torri eu gwalltiau.

Dywedodd y cyn-bennaeth pe bai hynny wedi digwydd, nid oedd hi yn ymwybodol o'r ffaith.

Mae Ms Evans yn gwadu naw cyhuddiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, gan gynnwys bwlio, cam ddefnyddio arian, codi ofn ar staff, ffugio cofnodion cyfarfodydd staff, a gadael i ofalwr yr ysgol edrych ar ôl dosbarth tra'r oedd yr athrawes yn torri ei gwallt.

Yn ogystal, mae wedi'i chyhuddo o benodi cariad ei mab, Lindsay Bolton, fel cymhorthydd dysgu, gan dorri canllawiau'r cyngor.

Mae hi wedi ei chyhuddo'n bellach o roi codiadau cyflog i Ms Bolton heb y sêl bendith priodol.

Mae'r gwrandawiad yn parhau yng Nghaerdydd.