Rotherham 1-3 Caerdydd
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Sicrhaodd Caerdydd dim ond eu hail fuddugoliaeth mewn 11 gêm nos Fawrth wrth iddynt drechu Rotherham o 1-3 yn stadiwm New York.
Bruno Ecuele Manga sgoriodd gôl gyntaf y gêm wrth iddo benio i'r rhwyd o groesiad Joe Ralls ar ôl 24 munud.
Sgoriodd Federico Macheda ail gôl sydyn i'r ymwelwyr, ac ychwanegwyd y drydydd cyn yr hanner wrth i Connor McAleny rwydo am y tro cyntaf i'r clwb ers iddo ymuno ar fenthyg gan Everton.
Sgoriodd Danny Ward i'r tîm cartref 10 munud cyn y chwiban olaf, ond dim ond gôl gysur fu hwn.
Fe fydd y fuddugoliaeth yn lleddfu ychydig o'r pwysau sydd ar reolwr Caerdydd, Russell Slade, wrth i'r canlyniad olygu bod yr Adar Gleision yn codi i'r 13eg safle yn y Bencampwriaeth.