Casnewydd 0-1 Mansfield
- Cyhoeddwyd

Cafodd Jimmy Dack ei drechu am y tro cyntaf fel rheolwr Casnewydd nos Fawrth wrth i Mansfield gipio gôl munud olaf i ennill o 0-1 yn Rodney Parade.
Wedi buddugoliaeth yn gêm gyntaf Dack dros y penwythnos, roedd Casnewydd yn awyddus i sicrhau canlyniad tebyg gartref yn erbyn Mansfield, ond wedi gêm ddiddigwyddiad, Mansfield adawodd dde Cymru gyda'r tri phwynt.
Daeth unig gôl y gêm ar ôl 87 munud wrth i ergyd Reggie Lambe ddarganfod cornel chwith y rhwyd.
Er y canlyniad, mae'r clwb yn aros yn safle olaf y gemau ail gyfle, yn seithfed yn Adran 2.