Cyhuddo dau wedi marwolaeth dyn ym Mhontypridd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr heddlu eu galw nos Sadwrn

Mae heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth Darran Almond, 42 oed, ym Mhontypridd wedi cyhuddo dau ddyn o lofruddiaeth.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i hen dafarn y Morning Star yn ardal Y Graig am 19:30 nos Sadwrn.

Fe gafodd dau ddyn lleol - Stephen John Richardson, 42 a David William Dunn, 31 - eu harestio.

Nos Fawrth fe gyhoeddodd yr heddlu fod y ddau wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ac y bydden nhw'n ymddangos gerbron Ynadon Pontypridd ddydd Mercher.