Iechyd: Mwy o ymweliadau dirybudd
- Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cyhoedi bod tîm o arbenigwyr wedi cynnal ymweliadau dirybudd ar 22 o wardiau sy'n darparu gofal iechyd meddwl i bobl hŷn yn ystod misoedd Tachwedd a Rhafgyr 2014.
Dywedodd Mark Drakeford fod y timau yn cynnwys uwch nyrsys iechyd meddwl pobl hŷn, fferyllwyr a therapyddion galwedigaethol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn dadansoddi canlyniadau'r ymweliadau dirybudd yn llawn."
Cafodd yr adolygiadau eu cynnal mewn wardiau ymhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau i bobl hŷn, sydd â chyflyrau fel dementia a salwch meddwl, gan gynnwys iselder a seicosis.
Roedd yr ymweliadau dirybudd hyn yn canolbwyntio ar:
- Gofal ymataliaeth a gofal personol
- Maetheg a hydradu
- Meddyginiaeth a rhagnodi gwrthseicotig
Oherwydd anghenion penodol pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl, roedd yr ymweliadau dirybudd hefyd yn canolbwyntio ar rai meysydd penodol:
- Ffrwyno a chymryd camau diogelu priodol
- Gweithgareddau dyddiol
- Perthnasau neu ofalwyr y cleifion a'u hymgysylltiad nhw wrth ofalu am eu hanwyliaid
- Diwylliant ac arweinyddiaeth
Dywedodd llefarydd fod yr ymweldiadau wedi datgelu nifer o "arferion da a rhagorol mewn sawl maes ar draws Cymru."
"Yn ôl y disgwyl, datgelodd yr ymweliadau rai meysydd hefyd lle'r oedd angen gwneud gwelliannau,"
Roedd rhain yn cynnwys:
- Rhagnodi a storio meddyginiaeth;
- Y staff â'r gymysgedd sgiliau sydd ar gael i ddarparu'r gofal mwyaf priodol;
- Hyfforddi staff;
- Ansawdd amgylchedd y ward a pha mor 'gyfeillgar i ddementia' ydyw;
- Cymhwyso deddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol yn ymarferol;
- Darpariaeth o wasanaethau arlwyo.
Fe fydd adroddiadau unigol a manwl am bob ymweliad yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru maes o law.