Cwest yn cael ei agor i farwolaethau Caerfaddon
- Cyhoeddwyd

O'r chwith : Mitzi Steady, Phil Allen, Stephen Vaughan a Robert Parker
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaethau pedwar o bobl gafodd eu lladd ar ôl gwrthdrawiad gyda lori 30 tunnell yng Nghaerfaddon.
Bu farw Phil Allen, 52 oed, a Stephen Vaughan, 34 oed, y ddau o Abertawe a Robert Parker, 59, o Gwmbrân yn y ddamwain ar Chwefror 9.
Cafodd merch bedair oed, Mitzi Steady o Gaerfaddon hefyd ei lladd.
Roedd y tri dyn yn teithio mewn tacsi, tra bod Mitzi yn cerdded gyda'i nain.
Mae dau ddyn wedi eu harestio ac wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Digwyddodd y ddamwain yng Nghaerfaddon
Cafodd dyn 19 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn 19 oed a dyn 28 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.