Dirgelwch gweddillion yn parhau

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, North wales police
Disgrifiad o’r llun,
Does neb wedi gweld Priscilla Berry ers 1978

Mae profion ar weddillion corff cafodd ei ddatgladdu yn Sir Conwy wedi methu a datrys dirgelwch dynes wnaeth ddiflannu o'i chartref ym Mochdre yn 1978.

Roedd yr heddlu wedi gobeithio y byddai'r profion yn canfod mai gweddillion Priscilla Berry, 39 oed, oedd yn y bedd ym mynwent Llangwstenin, ger Bae Colwyn.

Cafodd y gweddillion eu datgladdu ar Ionawr 13.

Dywedodd y ditectif Don Kenyon, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Fe lwyddodd arbenigwyr i gael digon o samplau DNA gan aelodau o deulu Mrs Berry, ac yn anffodus mae'r canlyniadau yn dangos nad gweddillion Mrs Berry oedd yn y bedd."

Fe fydd y gweddillion yn cael eu hail gladdu am 9.30am ar Fawrth 4, a hynny'n dilyn gwasanaeth byr ar lan y bedd.

Dywedodd aelod o'r teulu sydd yn byw yng ngogledd Crymu:

"Rydym yn gobeithio y bydd y wasg a'r cyhoedd yn deall ar ôl 37 o flynyddoedd nid ydym am ailgodi neu ail-fyw digwyddiadau trist y gorffennol. Mae'n bosib na chawn byth wybod beth ddigwyddo i fam a gwraig cariadus."

Straeon perthnasol