Pam bod angen cofrestru pleidlais?
- Cyhoeddwyd

Mewn ymgais i gael mwy o bobl i fwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, mae 'na ymgyrch ar droed i geisio annog etholwyr i gofrestru.
Y llynedd fe wnaeth sefydliad gwleidyddol amhleidiol 'Bite the Ballot' gofrestru 50,000 o bobl - maen nhw'n anelu at berswadio 250,000 eleni.
Yn 2010, roedd 1,466,690 o bobl wedi bwrw eu pleidlais yng Nghymru, sy'n 64.9% o'r etholwyr posib. Mae yna 2,225,700 o bobl yn gymwys i bleidleisio yn etholiad 2015.
Pam bod angen cofrestru?
Cyn gallu pleidleisio mewn unrhyw etholiad neu refferendwm, mae'n rhaid cofrestru eich pleidlais, gyda'ch enw a'ch cyfeiriad wedyn yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol.
Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu hŷn gofrestru, ond fydd ganddyn nhw ddim hawl i bleidleisio tan eu bod yn 18 oed.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 20 Ebrill, 2015.
Sut mae cofrestru am bleidlais?
Yn y gorffennol roedd un person o bob cartre' yn gyfrifol am gofrestru pawb oedd yn byw yn y cyfeiriad hwnnw. Ond ers haf 2014, mae'r drefn wedi newid, gyda phob unigolyn yn gyfrifol am gofrestru eu pleidlais eu hunain.
Mae'n gymharol syml i gofrestru ac mae modd gwneud ar-lein. Mae'r broses yn cymryd tua phum munud a byddwch angen eich rhif yswiriant cenedlaethol.
Os ydych yn ansicr os ydych eisoes wedi cofrestru, neu eisiau diweddaru eich manylion, cysylltwch gyda'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol.
Gallwch hefyd gofrestru drwy'r post os ydych yn byw yn y DU neu os ydych chi'n byw dramor.
Beth os na fydd rhywun yn cofrestru?
Yn syml, fydd unrhyw un sydd ddim wedi cofrestru ddim yn cael bwrw pleidlais ar 7 Mai.
Ac er nad yw'n orfodol i bleidleisio yn y DU, fe allai'r rhai hynny sy'n gymwys ac sydd ddim yn cofrestru pan fo cais iddyn nhw wneud, gael dirwy o £80.
Fydd 'na ddim dirwy i rai sydd â rheswm dilys dros beidio cofrestru - er enghraifft, os oes rhywun wedi bod yn yr ysbyty am gyfnod neu fod ganddyn nhw anghenion dysgu dwys.
Pwy sy'n cael bwrw pleidlais?
Er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio yn y DU mae'n rhaid i chi fod:
- dros 18 oed ar ddiwrnod yr etholiad;
- yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd un o wledydd eraill y Gymanwlad neu Weriniaeth Iwerddon;
- wedi'ch cynnwys ar gofrestr etholwyr yr etholaeth
Gall dinasyddion Prydain hefyd bleidleisio o dramor am hyd at 15 mlynedd ar ôl gadael y DU.
Nid yw'r canlynol â'r hawl i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y DU:
- aelodau o Dŷ'r Arglwyddi (siambr uwch y senedd);
- carcharorion;
- unrhyw un sydd wedi eu dal yn troseddu'n etholiadol yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf
Am restr lawn o'r rheolau pleidleisio, cliciwch yma.