Trysorau Dolmynach
- Cyhoeddwyd
Mae amgueddfa arbennig wedi agor yn Rhaeadr Gwy sy'n arddangos eitemau sy'n ymestyn dros ganrifoedd.
Ugain mlynedd yn ôl bu farw Leila Williams, ac yn ei hewyllys nododd ei bod hi am i'w chartref, Dolmynach, a'i heiddo gael eu gadael i Gyngor Sir Powys a'r gymuned leol yn Sir Faesyfed.
Mae'r tŷ wedi ei adael yn union fel yr oedd pan fu farw Leila, gyda hyd yn oed y dillad yn sychu ar lein yn y selar fel yr oeddynt, a'r llestri ar y bwrdd fel y gwnaeth hi eu gadael.
Er fod ambell i eitem lled-ddiweddar yn y tŷ, mae'r rhan helaeth o'r dodrefn a'r creiriau yn llawer hŷn - nifer ohonyn nhw wedi eu casglu gan daid Leila, Rhys Edwards Lewis, yn yr 19eg ganrif.
Ymysg rhai o'r trysorau sydd i'w gweld mae piano gosgeiddig o oes Victoria a chist a gafodd ei greu yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr yn yr 1640au.
Un sy'n perthyn i deulu Dolmynach a sydd yn un o ymddiriedolwyr y ganolfan yw Robert Lewis, sydd bellach yn byw yn Nolgellau. Dywedodd Robert:
"Mae'r tŷ yn arddangos casgliad eang o artiffactiau a chelf o oes Victoria a chynt. Mae'n dangos beth roedd dyn gyda dipyn o arian yn oes Victoria yn gallu ei gasglu, a'r moethusrwydd oedd ar gael yn y cyfnod.
"Dwi'n mawr obeithio y bydd pobl yn cymryd y cyfle i gael golwg ar rai o'r trysorau sydd yn y tŷ."
Mae'r tŷ yn dri llawr ac ynddi chwe 'stafell wely, tair lolfa ac ystafell gerddoriaeth. Cafodd Cymru Fyw wahoddiad arbennig i gael cipolwg ar y tŷ a'r eitemau sydd ynddo: