Plant yn teimlo bod eu cwynion yn cael eu 'hanwybyddu'
- Cyhoeddwyd

Roedd rhai pobl ifanc mewn cartref i blant yng Nghaerfyrddin - sydd nawr yn destun honiadau o gam-drin corfforol a rhywiol - yn teimlo bod eu cwynion yn cael eu hanwybyddu, yn ôl adroddiad o 1998.
Mae BBC Cymru wedi gweld yr adroddiad sydd hefyd yn datgelu bod rhai plant wedi cysylltu â'r heddlu gyda'u pryderon.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys ddydd Llun bod ymchwiliad - Ymgyrch Almond - wedi dechrau i honiadau o gam-drin corfforol a rhywiol yn Ysgol Rhydygors a Cartref-y-Gelli. Mae dros 20 o ddioddefwyr wedi eu canfod hyd yn hyn yn ôl y llu.
Cafodd yr honiadau cyntaf eu gwneud yn 2000 am gam-drin yn Ysgol Rhydygors yn dyddio yn ôl i 1976-1986. Ni chafodd unrhyw weithrediadau cyfreithiol eu dechrau.
Daeth honiadau pellach i'r amlwg yn 2012, oedd hefyd yn cynnwys adroddiadau o gam-drin yng Nghartref-y-Gelli rhwng 1986-1990.
14 o awgrymiadau
Mae archwiliad gafodd ei arwain gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym mis Mehefin 1997 yn gwneud 14 o awgrymiadau am safon gofal yng Nghartref-y-Gelli, ond does dim beirniadaeth fawr o'r cartref. Gweithredodd y cyngor gynllun i ymateb i'r holl awgrymiadau.
Mewn adran yn delio â chwynion, mae'r adroddiad yn datgan er bod y plant yng Nghartref-y-Gelli yn ymwybodol y gallan nhw gwyno, nid oedden nhw i gyd yn ddigon hyderus i wneud hynny.
Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod staff yn dweud eu bod yn "ymroddedig i wrando ar y plant a delio gyda'u cwynion yn effeithiol".
Roedd llyfr cwynion yn cael ei gadw yn ôl yr adroddiad, a dim ond dau gŵyn oedd wedi cael eu nodi, er bod achlysuron ble roedd pobl ifanc wedi ffonio'r heddlu gyda'u pryderon.
Dywed yr adroddiad bod y nifer o weithiau roedd rhaid i staff atal y plant yn gorfforol yn uchel. Yn ôl yr adroddiad, "doedd staff ddim yn hapus gyda'r angen i atal yn gorfforol, ac roedd rhai o'r plant yn credu bod staff wedi gorymateb i rai sefyllfaoedd".
'Edrych yn fanwl'
Caeodd Cartref-y-Gelli yn ystod blwyddyn ariannol 1998-99, ond dyw'r cyngor ddim yn dweud pam gaeodd y cartref.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gwrthod gwneud sylw ar fanylion yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi yn 1997. Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae chwech o bobl wedi cael eu harestio fel rhan o Ymgyrch Almond ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd Gomisiynydd Annibynnol Cwynion yr Heddlu, Christopher Salmon: "Mae hi'n hanfodol pan fo plant yn cwyno, eu bod yn teimlo'n hyderus y bydd eu cwynion yn cael eu cymryd o ddifrif.
"Fe fyddwn ni yn edrych yn fanwl ar yr adroddiad ac fe wna i ei drafod gyda'r prif gwnstabl."