Tottenham 3-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Ryan Mason a Neil TaylorFfynhonnell y llun, Getty Images

Trechodd Tottenham eu hymwelwyr Abertawe o 3-2 mewn gêm gyffroes yn White Hart Lane nos Fercher, welodd y gêm yn cael ei atal oherwydd i chwaraewr lewygu ar y cae.

Nacer Chadli sgoriodd gôl gyntaf y noson i'r tîm cartref, wrth iddo orffen yn daclus i guro Lukasz Fabianski ar ôl dim ond saith munud.

Ychydig funudau yn ddiweddaraf, roedd toriad yn y chwarae wrth i ymosodwr Abertawe, Bafetimbi Gomis, ddisgyn i'r llawr, wedi llewygu mae'n ymddangos. Roedd yn ymwybodol wrth gael ei gario o'r maes, ond cafod ei gludo i'r ysbyty am brofion.

Roedd hi'n gyfartal o few munudau wrth i Ki Sung-Yeung sgorio i'r Elyrch i'w gwneud yn 1-1 ar yr hanner.

Sgoriodd Ryan Mason ei gôl gyntaf dros ei glwb i roi Tottenham ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, ac ychwanegwyd at hynny ar yr awr wrth i ergyd Andros Townsend ddarganfod cornel y rhwyd.

Cafodd Abertawe gôl gysur o droed Gylfi Sigurdsson yn y munudau olaf, ond roedd y tîm cartref wedi sicrhau'r fuddugoliaeth yn barod.