Digwyddiad mewn cymdeithas adeiladu yn Llandudno
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw am 19:45 ddydd Mercher
Mae Heddlu'r Gogledd yn chwilio am dri dyn oedd yn ymddwyn yn amheus cyn i rywun dorri i mewn i gymdeithas adeiladu yn Llandudno nos Fercher.
Derbyniodd yr heddlu alwad gan aelod o'r cyhoedd yn tynnu eu sylw at y digwyddiad yng nghangen Nationwide am 19:45.
Nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd i awgrymu os cafodd unrhyw beth ei ddwyn.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw lygad dystion gysylltu gyda Gorsaf Heddlu Llandudno ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod S030774.
Swyddogion yr heddlu yn ymchwilio ger lleoliad y gymdeithas adeiladu
Cerbyd yr heddlu ger y gymdeithas adeiladu nos Fercher