Pont y Borth: Gosod ei stamp ar y byd
- Cyhoeddwyd

Pont Menai
Bydd Pont y Borth yn un o 10 o bontydd fydd yn ymddangos ar stampiau dosbarth cyntaf diweddaraf y Post Brenhinol.
Cafodd y bont, sydd yn 176.5m o hyd, ac sydd yn cysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr, ei chwblhau yn 1826 gan Thomas Telford.
Dywed y Post Brenhinol fod y pontydd yn y gyfres yn dangos y "naid mewn peirianneg" gan bensaeri blaengar.
Mae pontydd eraill yn y gyfres yn cynnwys pont Pulteney yng Nghaerfaddon, a phont gludo Casnewydd.