Gomis yn llewygu: 'Brawychus'
- Cyhoeddwyd

Mae un o gyd chwaraewyr Bafetimbi Gomis yn Abertawe wedi disgrifio gweld y Ffrancwr yn llewygu yn ystod gêm yr Elyrch yn erbyn Tottenham nos Fercher fel digwyddiad 'brawychus'.
Dywedodd Neil Taylor, cefnwr chwith Abertawe, fod staff meddygol wedi ymateb yn sydyn ar ôl i Gomis lewygu yn ystod y gêm.
Mae gan Gomis, 29, sydd yn ymosodwr i Ffrainc, gyflwr meddygol sydd yn golygu ei fod yn gallu llewygu yn ddirybudd ar adegau.
Dywedodd Taylor fod y digwyddiad wedi creu pryder ychwanegol ar gae White Hart Lane, gan mai yno y cafodd cyn chwaraewr Bolton, Fabrice Muamba, drawiad ar y galon yn 2012.
'Dychrynllyd'
"Mae'n ddychrynllyd pan mae peth fel hyn yn digwydd ar y cae", meddai Taylor.
"Yn enwedig yma - mae'n rhaid eu bod wedi poeni'n ofnadwy - ond roedden nhw (y staff meddygol) wedi mynd ar y cae yn sydyn iawn gan ddelio gyda'r sefyllfa yn berffaith."
Nid yw Muamba wedi chwarae pêl-droed proffesiynol ers y digwyddiad ac roedd rhai o chwaraewyr Tottenham wedi eu hysgwyd pan lewygodd Gomis wedi wyth munud yn ystod y gêm yn Uwchgyngrair Lloegr. Collodd Abertawe 3-2 ar y noson.
Ymunodd Gomis gyda'r Elyrch o Lyon yn haf 2014, ac fe gafodd nifer o brofion meddygol yn 2009 yn dilyn tri digwyddiad pan lewygodd tra'n chwarae i'r clwb.
'Dim perygl difrifol'
Yn ôl y profion, nid oes perygl difrifol i'w iechyd, ond er hyn, roedd y digwyddiad nos Fercher yn destun pryder i Abertawe er eu bod yn ymwybodol o'i gyflwr meddygol.
Cadarnhaodd Abertawe fod y chwaraewr yn "iawn" wedi iddo gael ei gario o'r cae, er iddo gael ei gludo i'r ysbyty er mwyn diogelwch.
"Yn amlwg roedd yn bryderus iawn ond yn ffodus fe aeth y parafeddygon ar y cae yn gyflym a delio gyda fo", meddai Neil Taylor.
"Dwi wedi clywed ei fod yn iawn, sydd yn dda, felly yn amlwg rydym yn dymuno'r gorau iddo fo ac yn ddiolchgar fod popeth wedi mynd fel y dylai a phopeth wedi ei drin yn gywir".
"Fe aeth y gêm yn ei blaen ac mae'n anffodus na chawson ni ganlyniad iddo fo", meddai Taylor.