Gwynedd: Treth cyngor yn cynyddu 4.5%

  • Cyhoeddwyd
pres

Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cyllideb yr awdurdod ar gyfer 2015/16 mewn cyfarfod o'r cyngor llawn.

Yn rhan o'r gyllideb, bydd treth y cyngor yn cynyddu 4.5%. Mae hyn yn gyfwerth â 96 ceiniog yr wythnos ar gyfartaledd i gartref Band D.

Mewn datganiad bnawn Iau, dywedodd y cyngor eu bod "yn rhagweld y bydd angen £228 miliwn i ddarparu gwasanaethau lleol sy'n cynnwys gofal i bobl hŷn, ysgolion, casglu gwastraff a chanolfannau hamdden".

O'r swm hwnnw, bydd angen codi £60 miliwn yn lleol gan mai £168 miliwn o nawdd fydd yn dod drwy grant llywodraeth.

'Penderfyniad anodd'

Fe fydd y cynnydd mewn treth cyngor yn cynhyrchu bron i £58 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol, gyda £2 filiwn ychwanegol yn dod o falansau'r Cyngor.

Er nad oes toriadau pellach i wasanaethau yn rhan o'r gyllideb eleni, mae'r cyngor yn rhybuddio fod toriadau o'r fath "yn anorfod" y flwyddyn nesa'.

Dywedodd y Cynghorydd Peredur Jenkins, Aelod Cabinet Adnoddau Cyngor Gwynedd:

"Yn anffodus, mae'r cyllid y mae Cyngor Gwynedd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru'n cael ei leihau o £7 miliwn, neu 4% ar gyfer 2015/16. Daw hyn ar ben y lleihad o £8 miliwn neu 4.4% mewn cyllid y bu'n rhaid i ni ddygymod ag o'r llynedd.

'Toriadau anorfod'

"Mae'r ffaith fod y swm o arian yr ydan ni'n ei dderbyn gan y llywodraeth tuag at y gost o ddarparu gwasanaethau yn dal i fod filiynau o bunnau'n llai na'r hyn sydd ei angen, yn golygu nad oedd gynnon ni fel Cyngor ddewis ond cynyddu Treth Cyngor 4.5%. Mae hyn yn gyfwerth â 96 ceiniog yr wythnos ar gyfartaledd i gartref Band D.

"Pe na bydden ni wedi cymryd y penderfyniad anodd yma, fyddai gynnon ni ddim dewis ond gweithredu toriadau poenus yn ystod 2015/16. Er enghraifft, byddai cynnydd o 3.5% mewn Treth Cyngor wedi arwain at £553,700 o doriadau ychwanegol mewn gwasanaethau.

"Trwy gynllunio ymlaen llaw a defnyddio balansau fel mesur unwaith yn unig i osod cyllideb gytbwys, rydan ni wedi gallu prynu 12 mis ychwanegol er mwyn cynyddu arbedion i'r eithaf a chynllunio'n gynhwysol ar gyfer y toriadau i wasanaethau fydd yn anorfod o fis Ebrill 2016 ymlaen.