Gwrthod cais i symud Ysgol Gymraeg Llundain

  • Cyhoeddwyd
Plant Ysgol
Disgrifiad o’r llun,
Plant Ysgol Gymraeg Llundain yn ystod dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn San Steffan y llynedd

Mae cais gan Ysgol Gymraeg Llundain i symud i leoliad newydd yn ardal Wembley wedi ei wrthod gan y cyngor lleol.

Nos Fercher, fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor Brent wrthod cais cynllunio i leoli'r ysgol ym Mharc Brenin Edward VII.

Mae'n rhaid i'r ysgol, sydd a 30 o ddisgyblion, adael ei safle presennol erbyn yr haf dan gynlluniau i ehangu Ysgol Gynradd Stonebridge y drws nesaf.

Mewn datganiad i rieni fore Iau, mae'r ysgol wedi cadarnhau bod cais cynllunio i droi Pafiliwn Fowlio yn adeilad ysgol yn y parc wedi ei wrthod gan Gyngor Brent.

Dywedodd bwrdd yr ysgol y byddan nhw'n parhau i chwilio am leoliadau eraill, ac maen nhw'n gofyn i gefnogwyr fynd i gyfarfod agored i drafod dyfodol yr ysgol ar Fawrth 27 yng Nghanolfan Cymry Llundain.

Gwrthod y cais

Fe wnaeth Cyngor Brent gadarnhau eu bod nhw wedi gwrthod y cais cynllunio nos Fercher.

Dywedodd y Cynghorydd Muhammed Butt, Arweinydd Cyngor Brent: "Er mwyn ateb gofynion poblogaeth sydd yn fwy-fwy ifanc yn Brent, mae'r cyngor angen meddiant o'r ddau adeilad sydd ar hyn o bryd yn gartref i Ysgol Gymraeg Llundain er mwyn galluogi i Ysgol Gynradd Stonebridge ehangu.

"Rydym wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Gymraeg Llundain i geisio dod o hyd i safle arall iddyn nhw.

"Ond nid oedd y pwyllgor cynllunio yn cytuno gydag awgrym y swyddog fod pafiliwn parc bowlio Brenin Edward VII yn safle addas ar gyfer Ysgol Gymraeg Llundain ac fe gafodd y cais ei wrthod.

"Cafodd y cais ei wrthod gan nad oedd yn cydymffurfio gyda pholisi CP18 sydd yn ceisio diogelu llefydd cyhoeddus agored ac fe fyddai yn golygu colli adnodd ar gyfer defnydd sydd ddim yn uniongyrchol gysylltiedig â defnydd ehangach y parc ar gyfer gofynion lleol."