Ffraeo dros ddadleuon teledu cyn yr etholiad
- Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru ymhlith y gwrthbleidiau sydd wedi cyhuddo'r Prif Weinidog David Cameron o fod "ofn" dadleuon teledu, wedi iddo wrthod mynd benben ag Ed Miliband mewn dadl cyn yr etholiad cyffredinol.
Roedd y darlledwyr wedi cynnig tair dadl deledu. Dwy rhwng saith arweinydd y prif bleidiau, ac un rhwng Ed Miliband a David Cameron yn unig.
Ond mae Downing Street wedi cyhuddo'r darlledwyr o "wneud llanast" o'r trafodaethau, ac yn dweud bod y prif weinidog yn barod i gymryd rhan mewn un ddadl yn unig gyda'r chwe arweinydd arall - gan gynnwys Plaid Cymru - a hynny cyn i'r ymgyrch swyddogol ddechrau.
Mae'r pleidiau eraill wedi'i gyhuddo o fod ofn dadl gyhoeddus ac o fwlio'r darlledwyr, ond gwadu hynny mae David Cameron, gan ddadlau y byddai cynnal dadleuon ar ôl i'r ymgyrch ddechrau ar 30 Mawrth yn tynnu sylw oddi ar faterion pwysicach.
"Dwi ddim yn cyflwyno rhwystrau" meddai, "Gadewch i ni fwrw 'mlaen gyda'r ddadl sy'n golygu fwyaf."
'Haeddu'r ddadl'
Ond dywedodd yr arweinydd Llafur Ed Miliband nad oedd yn derbyn esgusodion y prif weinidog gan ei gyhuddo o fod ofn y dadleuon.
"Dwi ddim yn credu y bydd y cyhoedd yn goddef prif weinidog sy'n rhedeg i ffwrdd o'r dadleuon, rhedeg i ffwrdd o'i record a rhedeg i ffwrdd o ddadl wyneb yn wyneb â mi," meddai.
"Mae pobl Prydain yn haeddu'r ddadl yma ... Dwi'n fodlon dadlau ag o unrhyw bryd ac unrhyw le."
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae ymgais Mr Cameron i "roi pwysau ar y darlledwyr yn annerbyniol ac yn haerllug."
"Mae pobl eisiau gweld y dadleuon yma yn cael eu cynnal fel bod ganddyn nhw gyfle i glywed gan y pleidiau y bydden nhw'n pleidleisio drostyn nhw ym mis Mai."
Mae disgwyl i'r darlledwyr ymateb yn fuan, ond yn breifat maen nhw'n anhapus fod un blaid yn ceisio gosod telerau'r ddadl.
Un opsiwn iddyn nhw yw bwrw 'mlaen heb y prif weinidog, ac mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg yn dweud y byddai'n fodlon camu i'r adwy os mai dyna fydd yn digwydd.
"Os yw David Cameron yn rhy brysur neu yn rhy bwysig i amddiffyn record y llywodraeth yma gydag Ed Miliband," meddai, "yna dwi'n cynnig ei wneud yn ei le".