Cyrch rhyngwladol yn arwain at ddedfrydu 11 troseddwr
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad rhyngwladol i brynu a gwerthu delweddau o gam-drin plant ar y we wedi arwain at arestio 13 o bobl, ac 11 o achosion llys llwyddiannus yng Nghymru.
Cafodd Prosiect Spade ei sefydlu gan yr heddlu yng Nghanada, ac mae eisoes wedi arwain at wyth achos llys llwyddiannus yn ardal Heddlu'r De.
Roedd un o'r rhain yn cynnwys achos Gareth Williams, dirprwy brifathro Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd.
Mae gwaith Spade wedi arwain at ddau achos llys llwyddiannus yn ardal Heddlu Gogledd Cymru ac un achos yn ardal Heddlu Dyfed Powys.
Daeth y ffigyrau ar ôl cais Ryddid Gwybodaeth gan BBC Cymru.
Yn 2013, fe wnaeth Heddlu Toronto ddweud fod eu hymchwiliadau i ecsploetio plant wedi ymestyn i 348 o wledydd ledled y byd, a bod 386 o blant wedi eu hachub.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod Prosiect Spade wedi cyfeirio 21 o bobl at sylw Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent.
Doedd Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed-Powys ddim yn fodlon dweud faint o bobl oedd wedi eu cyfeirio atynt o ganlyniad i ymchwilaid spade.
Roedd achos Gareth Williams y llynedd yn un o'r achosion voyeuriaeth mwyaf i ddeillio o Brosiect Spade.
Cafodd y cyn ddirprwy brifatho ei garcharu gan Llys y Goron Caerdydd am bum mlynedd, a gafodd ei ostwng i bedair blynedd, ar ôl iddo gyfaddef i 31 o gyhuddiadau, gan gynnwys naw o voyeuriaeth.
PROSIECT SPADE:
Cafodd manylion am bobl dan amheuaeth yn y DU eu trosglwyddo i Ganolfan Warchod Ecsploetio a Cham-drin Plant - CEOP.
Fe ddaeth CEOP yn rhan o'r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NAC) ac yna cafodd y wybodaeth ei throsglwyddo i heddluoedd unigol.
Fe wnaeth yr NCA gyfeirio ei hun at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH) oherwydd oedi yn ymwneud â gwybodaeth o Brosiect Spade.
Mae CCAH hefyd yn ymchwilio i'r modd wnaeth Heddlu'r Gogledd ddelio gyda'r wybodaeth. Fe roddwyd enwau tri phedoffeil posib i'r llu gan yr NCA yn 2013 - ond bu oedi am flwyddyn cyn i'r heddlu weithredu.
Heddlu Gogledd Cymru wnaeth ofyn i'r IPCC gynnal ymchwiliad.
Manylion cais Rhyddig Gwybodaeth y BBC.
HEDDLU GOGLEDD CYMRU:
CYFEIRIO : 15
ARESTIO: 8
DEDFRYDU : 2
HEDDLU DYFED-POWYS:
CYFEIRIO: gwrthod datgelu
ARESTIO: gwrthod datgelu
DEDFRYDU: 1
HEDDLU GWENT:
CYFEIRIO: 9
ARESTIO: 5
DEDFRYDU: 0
HEDDLU DE CYMRU:
CYFEIRIO: gwrthod datgelu
ARESTIO: gwrthod datgelu
DEDFRYDU: 8
Straeon perthnasol
- 23 Ionawr 2015
- 15 Ionawr 2015
- 12 Tachwedd 2014
- 3 Tachwedd 2014
- 14 Hydref 2014